Dinas fywiog yn llawn hanes, bydd Caerdydd yn cynnal Voice10 mis Chwefror nesaf gan arddangos y mentrau cymdeithasol gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.
Daeth Caerdydd yn brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd yn 2004, ac mae Masnach Deg Caerdydd yn parhau i weithio'n galed i hyrwyddo dealltwriaeth o fasnach deg.
Mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru fap ar-lein o siopau, sefydliadau a grwpiau masnach deg Cymru.
Mae adfywiad £1.8 biliwn o Fae'r ddinas a datblygiad £102 miliwn Canolfan Mileniwm Cymru wedi sicrhau fod Caerdydd yn gyrchfan twristiaeth a busnes o fri yn y Deyrnas Unedig.
Bydd gennym fargeinion llety arbennig a chynigion eraill gwych ar gael i fynychwyr Voice10 yn fuan, felly cadwch lygad ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth.