BORE & PRYNHAWN: 1

SE 101: Siop-un-stop yn cynnig cyngor i entrepreneuriaid cymdeithasol uchelgeisiol

Fel mae proffil y mudiad yn parhau i dyfu, mae mwy o bobl yn dangos diddordeb mewn dysgu mwy am fentrau cymdeithasol a'r gofynion ymarferol ynghlwm wrth osod un ar ei draed.   

Bydd y sesiwn yma yn darparu cyflwyniad cyffredinol i fenter gymdeithasol, gan gynnwys beth yw menter gymdeithasol, a'r gwahanol fodelau a strwythurau cyfreithiol sydd ar gael, a chynnig cyngor i'r rhai sy'n gobeithio sefydlu busnes menter gymdeithasol gan gynnwys sut i ddatblygu cynllun busnes, sut i wneud y gorau o'ch marchnata a sut i ariannu'r fenter.  

Cadeirydd: Matt Knopp, Eastside Consulting
Saeeda Ahmed, Trescom
Abbie Rumbold, Bates Wells and Braithwaite

BORE & PRYNHAWN: 2

Gwasanaethau cyhoeddus: Gwneud mwy yn well am lai

Yn sgil y dirwasgiad economaidd diweddar, mae'r DU yn wynebu toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus pwy bynnag fo mewn grym. O dan gochl cynyddu ‘effeithiolrwydd' mae perygl i'r toriadau yma olygu llai o fuddsoddi mewn arloesi, cydgasglu cytundebau a hyd yn oed toriadau cyffredinol ar draws yr holl gyrff cyhoeddus.

Fel sector, mae angen i fentrau cymdeithasol wneud mwy i ddangos sut y gall buddsoddi ar hyn o bryd olygu arbedion yn y tymor hir. Rhaid i ni ddangos y gall mentrau cymdeithasol, trwy gynllunio a theilwra gwasanaethau o gwmpas anghenion unigolyn a lleoliad, arwain at wasanaethau mwy effeithiol ac o'r herwydd, mwy effeithlon.  Rhaid i ni hefyd gryfhau hyn gyda system sy'n cefnogi caffaeliad yn hytrach na rhwystro arloesi.

Cadeirydd: Geoff Walker, Gofal yn y Gymuned, Sandwell
John Bryant, Ymddiriedolaeth Gofal GIG Torbay
June O'Sullivan, Sefydliad London Early Years
Nicola Southall, Llywodraeth Cynulliad Cymru

BORE: 3

Creu newid cymdeithasol ar raddfa eang: Ai yn y sector preifat mae dyfodol arloesi cymdeithasol neu all mentrau cymdeithasol lwyddo ar ben eu hunain?

Ar adeg pan fo'r byd yn wynebu her gymdeithasol ac amgylcheddol heb ei debyg, sut allwn ni ddarganfod atebion cyraeddadwy a fydd yn cynhyrchu'r dylanwad angenrheidiol fydd yn creu gwir newid? Ai'r ateb ydy'r model menter gymdeithasol dielw, ai trwy bartneriaethau gyda'r sector preifat, neu a ydy dyfodol arloesi cymdeithasol yn nwylo'r sector preifat rhyngwladol?

Cadeirydd: Sam Conniff, Livity
Simon Devonshire, O2
John Motague, Trees
Mark Sesnan, GLL

BORE: 4

Ysgolion mentrau: Creu entrepreneuriaid cymdeithasol y genhedlaeth nesaf

Er mwyn sicrhau datblygiad y sector mentrau cymdeithasol i'r dyfodol, mae'n hanfodol bod cymorth ar gael i'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid cymdeithasol. Rhaid i ni dynnu sylw ein pobl ifanc at y mentrau cymdeithasol fel posibilrwydd gyrfa a'u hysbrydoli i greu lles cymdeithasol wedi'i gyfuno gyda chyfoeth economaidd.

Bydd y sesiwn yma'n archwilio'r llwybrau addysgiadol niferus i feithrin ton newydd o entrepreneuriaid ifanc, gan gynnwys ysgolion arbenigol, cynlluniau mentrau cymdeithasol llwyddiannus mewn ysgolion, a thrwy'r cwricwlwm ei hun.

Cadeirydd:  Matt Stevenson-Dodd, Menter yr Ifanc, Gogledd Orllewin
Caroline Bell, Canolfan Holbrook ar gyfer Awtistiaeth
Dan McCallam, Awel Amantawe
Emma McColl, Global Ethics

BORE: 5

Dringo yn y sector mentrau cymdeithasol:  Pam nad oes mwy o drwyddedau cymdeithasol?

Yn sgil y toriadau arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus mae'n gynyddol bwysig bod mentrau cymdeithasol yn chwilio am gyfleoedd i gynnal tyfiant parhaol y mudiad oddi mewn.

Un dull o wneud hyn yw trwy gefnogi trwyddedu modelau mentrau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli ac sy'n cynnal eu hunain yn llwyddiannus ac yn tyfu. Bydd y sesiwn yma yn edrych ar sefydliadau sy'n meithrin, datblygu a gwarchod mentrau newydd - sefydliadau sydd ar y cyfan wedi datblygu er gwaetha yn hytrach nag o ganlyniad i gefnogaeth y sector cyhoeddus - gan edrych ar yr hyn y dylem ei ddysgu ganddyn nhw er mwyn i'n mudiad ni ein hunain dyfu.  

Cadeirydd: Alastair Wilson, Yr Ysgol ar gyfer Entrepreneuriaid Cymdeithasol
Andrew Croft, CAN
Colin Crooks, Greenworks
John Bennett, Pack-It

BORE: 6

Gwerthu mentrau cymdeithasol:  Sut i ddenu cwsmeriaid i siopa mewn mentrau cymdeithasol/Treiddio i farchnadoedd defnyddwyr

Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd cynnydd sylweddol yn niddordeb defnyddwyr mewn cynnyrch a gwasanaethau moesegol. Mae'r datblygiad yma'n cynnig cyfle cyffrous i fentrau cymdeithasol farchnata eu cymwysterau moesegol a denu cwsmeriaid newydd. Ond beth yw'r her o dreiddio i'r farchnad yma tra ar yr un pryd yn ceisio bod yn ffyddlon i egwyddorion menter gymdeithasol? A sut mae cynnal eich cyfran o'r farchnad pan fo gweithredwyr masnachol yn copïo eich dulliau chi gyda'u cynnyrch hwy?

Bydd y sesiwn yma'n rhoi sylw i fentrau cymdeithasol sydd wedi datblygu modelau busnes llwyddiannus yn y farchnad hon a thrafod tyfiant yn y farchnad a'r rhagolygon ar gyfer cynnyrch moesegol i ddefnyddwyr yn y dyfodol.  

Cadeirydd: Vivian Woddell, The Phone Coop
San Leonard, Social Firms Wales
Jacquie Bance, CaféDirect

BORE: 7

Ariannu creadigol: Ariannu dyfodol y mentrau cymdeithasol 

Mae'r gallu i gael gafael ar gyllid yn elfen allweddol i sicrhau tyfiant parhaol sector y mentrau cymdeithasol.  Bydd y manteision a ddaw yn sgil y mentrau cymdeithasol, o safbwynt cyrraedd amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal â rhai ariannol, yn fanteisiol iddyn nhw yn y dyddiau economaidd cyfnewidiol sydd ohoni. Gallai'r syniadau sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd, gan gynnwys banc cyfanwerthu buddsoddiadau cymdeithasol, cyfranddaliadau cymunedol, marchnad stoc gymdeithasol a bondiau grym cymdeithasol, chwyldroi tirwedd cyllido cymdeithasol.  

Bydd y sesiwn yma'n rhoi sylw i rai o'r prif ddatblygiadau arloesol ym maes cyllido cymdeithasol gan bwysleisio'r gwahaniaeth y gallent ei wneud i sector y mentrau cymdeithasol sector ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Cadeirydd: Eric Munro, Cyfarwyddwr, Bancio Cymunedol, Grwp y Royal Bank of Scotland
Toby Eccles, Social Finance
Naomi Kingsley, London Rebuilding Society
John Kingston, CAF Venturesome

BORE: 8

Cymdeithasau tai a mentrau cymdeithasol: Mwy na tho yn unig

Mae mentrau cymdeithasol a chymdeithasau tai yn gynghreiriaid naturiol. Mae cymdeithasau yn eu hanfod yn fentrau cymdeithasol yn rhinwedd eu gwaith o ddarparu tai fforddiadwy i bobl ag anghenion llety. Er hynny mae amcanion nifer o gymdeithasau tai yn ymestyn ymhellach na thai yn unig gan gyfrannu'n sylweddol tuag at adfywio, datblygu economaidd a darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  

Bydd y sesiwn yma'n edrych ar ffyrdd y gall cymdeithasau tai can gefnogi ffurfio mentrau cymdeithasol o fewn eu cymunedau a gweithio gyda mentrau cymdeithasol trwy gytundebau er mwyn darparu gwasanaethau.

Cadeirydd:  David Orr, National Housing federation
Nigel Draper, V2C Homes
Martin Kinsella, P3
Andrew Lycett, RCT Homes  

PRYNHAWN: 3

Cyfryngau cymdeithasol: Mentro i fyd gwe 2.0

Mae'r byd wedi newid. Diolch i'r rhyngrwyd, mae pobl yn cysylltu ar draws ffiniau daearyddol, cymdeithasol ac economaidd, yn cydweithio a rhannu gwybodaeth gan chwalu rheolau traddodiadol byd busnes. iTunes, Twitter a chynlluniau ffynhonnell agored megis Wikipedia yw rhai o'r enghreifftiau gorau o'r modd y mae'r rhyngrwyd yn cysylltu pobl mewn ffyrdd tra gwahanol yn yr oes newydd o wybodaeth.

Mae hyn yn cynnig her a chyfle aruthrol i'r mentrau cymdeithasol sy'n torri rheolau busnes eu hunain ac sydd wrth reddf yn cydweithio fwyfwy.

Bydd y sesiwn ymarferol a rhyngweithiol yma yn archwilio sut y gall mentrau cymdeithasol elwa i'r eithaf ar y newidiadau yma - o farchnata gan ddefnyddio cyfryngau newydd megis blogio a Twitter, i ddefnyddio offer newydd i gysylltu'n well gyda chwsmeriaid, ac i adeiladu a symbylu cymunedau.

Cadeirydd:  Nick Temple, School for Social Entrepreneurs
Ben Matthews, Bright One
Alberto Nardelli, UnLtd World

PRYNHAWN: 4

Ar y cledrau: Atebion mentrau cyhoeddus ym myd cyfiawnder troseddol

Gall mentrau cymdeithasol fod yn gerbyd effeithiol i ddarparu ymyrraeth reoli i droseddwyr ac ymdrin a'r rhychwant eang o elfennau sy'n cyfrannu at ymddygiad troseddol, yn ymestyn o achosion o iechyd meddwl ac ymddygiad unigolyn hyd at broblemau ehangach allgáu cymdeithasol ac amddifadedd economaidd. 

Mae'r cyfraniad y gall y mentrau cymdeithasol ei wneud i'r rhychwant eang o asiantaethau o fewn y sbectrwm cyfiawnder troseddol yn dechrau cael ei gydnabod yn eang. Mae carchardai, byrddau/ymddiriedolaethau prawf ac asiantaethau eraill mewn cyswllt fwyfwy gyda'r mentrau cymdeithasol, neu'n eu hawdurdodi nhw, i gyfleu'r canlyniadau maen nhw'n ddymuno.

Bydd y sesiwn yma'n cyflwyno ymchwil a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr sy'n amlygu gweithgaredd y mentrau cymdeithasol o fewn y carchardai a'r gwasanaethau prawf.  Bydd hefyd yn amlygu rhai o fodelau gweithgaredd mwyaf creadigol ac arloesol y mentrau cymdeithasol yn y maes yma yng Nghymru a Lloegr.

Cadeirydd: Nicky Stevenson, The Guild
Sarah Dunwell, Create CIC
Amanda Palmer Royce, Eco-Actiff
Stephen Ray, Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru

PRYNGHAWN: 5

Mentrau cymdeithasol a gofal iechyd:  Darparu gwasanaeth arloesol o safon uchel.

Mae datblygiad y mentrau cymdeithasol yn rhan allweddol o ad-drefnu gofal iechyd a chymdeithasol gan ei fod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth wynebu anghyfartaledd ym maes iechyd, gwella cysylltiadau dinasyddion yn ein gofal a gwella canlyniadau a hyrwyddo gwasanaeth o ansawdd. Gall y mentrau cymdeithasol hefyd roi'r rhyddid i bobl broffesiynol ym meysydd gofal iechyd a chymdeithasol gynllunio a rheoli gwasanaethau i gwrdd ag anghenion defnyddwyr a'r gymuned yn well.
Bydd y sesiwn yma yn darparu enghreifftiau grymus o gamau y mae modd eu cymryd i gefnogi'r agenda hon gan gynnwys enghreifftiau ymarferol ble roedd y mentrau cymdeithasol yn gyfrifol am newidiadau. Mae'n canolbwyntio ar y modelau gwahanol sy'n agored i'r mentrau cymdeithasol  - o sefydliadau mawr sy'n cael eu harwain gan y gweithwyr i ymyrraeth gymunedol. Bydd hefyd yn darparu offer a thechnegau ymarferol i'r mentrau cymdeithasol a'r comisiynwyr i symbylu gwelliannau mewn gofal.

Cadeirydd: Rebecca Chaloner, Adran Health+
Lance Gardner, YGS Gogledd Ddwyrain Lincoln
Richard Kramer, Turning Point
Jo Pritchard, Central Surrey Health

PRYNHAWN: 6

Mentrau cymdeithasol gwyrdd: Sut y gall mentrau cymdeithasol fesur a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae menter gymdeithasol o bob math yn frwd i fesur a lleihau effaith ei gweithgareddau busnes ar yr amgylchedd.  Bydd y gweithdy yma yn ceisio cynnig cyngor ymarferol ar sut i wneud eich menter gymdeithasol yn fwy gwyrdd gan gysylltu gyda'r gymuned leol.  Yn benodol, bydd yn edrych ar astudiaethau achos o fentrau gwyrdd llwyddiannus a hefyd yn archwilio ffyrdd y gall  mentrau cymdeithasol fesur eu heffaith garbon a gosod cynlluniau ymarferol mewn grym i gyflwyno polisïau newydd i leihau carbon yn eu sefydliadau ac yn y gymuned leol. 

Cadeirydd: Nigel Lowthrop, Hill Holt Wood
Richard Northridge, Ymddiriedolaeth Dir Cwm Harry
Matthew Thompson LCRN
 

PRYNHAWN: 7

Cyfuniadau a meddiannu: Ydy cyfuniadau a meddiannu yn ddiwylliannol groes i fentrau cymdeithasol?

Yn y sector mentrau cymdeithasol sy'n datblygu, mae hyrwyddo i'r eithaf ddylanwad cymdeithasol trwy dwf wedi bod yn bwnc trafod llosg ar ddyfodol y mudiad. Ond yn chwedlonol, prin yw arweinwyr y mentrau cymdeithasol sy'n hyderus i goleddu twf rhag ofn gwyro oddi wrth y neges, gwanhau gwerthoedd neu golli'r hyblygrwydd i ymateb yn gyflym ac yn greadigol i anghenion lleol.

Beth all y mentrau cymdeithasol ddysgu gan y byd busnes masnachol am lwybrau dieithr tuag at dwf? Beth ydy'r elfennau cyffredin a'r rhai gwahanol? A beth ydy'r manteision a'r peryglon i arweinwyr mentrau cymdeithasol sy'n ystyried y llwybrau yma tuag at dwf? Bydd y sesiwn yma'n ceisio archwilio'r cwestiynau yma.

Cadeirydd: Denise Holle,
Craig Dearden-Phillips, Speaking Up
Dai Powell , HCT
Fay Selvan, The Big Life Company  

PRYNHAWN: 8

Merched a mentrau cymdeithasol: Pam fod merched yn naturiol gartrefol fel arweinwyr mentrau cymdeithasol.  

Dengys ffigyrau ymchwil diweddar gan Glymblaid y Mentrau Cymdeithasol fod merched yn llawer mwy tebygol i fod yn arweinwyr mewn mentrau cymdeithasol nac yn y sector busnes bychan a chanolig traddodiadol. Gellid disgrifio dau ddeg chwech y cant o fentrau cymdeithasol yn rhai gyda ‘merch wrth y llyw' sydd bron i ddwywaith gymaint â busnesau bychain sydd â chanran o 14%. Ond tra bod gryn ymdrech wedi'i wneud i ddenu merched i sefydlu mentrau prif ffrwd, hyd yma ychydig o ymdrech a wnaed i ddenu a hyrwyddo merched yn y mentrau cymdeithasol.

Dyna union fwriad y sesiwn yma - bydd yn rhoi sylw amlwg i rai o'r mentrau cymdeithasol mwyaf llwyddiannus yn y DU sy'n cael eu harwain gan ferched - gan ganolbwyntio ar elfennau allweddol yn eu llwyddiant ac archwilio pam bod mentrau cymdeithasol yn ddewis gyrfa mor ddeniadol i ferched.

Cadeirydd: Jo McGrath, Blackburne House
Angela Asieba, Nubia Magazine CIC
Sally Reynolds, Social Firms UK

Sponsors