Mentrau Cymdeithasol: Dim mwy o fusnes fel arfer

Mentrau Cymdeithasol: Dim mwy o fusnes fel arfer

Mae Llais10, cynhadledd flynyddol y Glymblaid Mentrau Cymdeithasol, a phrif ddigwyddiad y Deyrnas Unedig ar gyfer mentrau cymdeithasol, yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 1 a 2 Chwefror.  Llywodraeth Cynulliad Cymru yw prif noddwr y gynhadledd.

  

 

Mentrau Cymdeithasol: Dim Mwy o Fusnes fel Arfer.

Gyda'r Deyrnas Unedig yn parhau mewn dirwasgiad, mae'r Gynghrair Mentrau Cymdeithasol yn credu mai dyma'r amser i herio'r dull "arferol" o gynnal busnes.  Yn Llais10, bydd y mudiad yn dod ynghyd i ymateb i rai cwestiynau allweddol, a darparu atebion i heriau sydd yn ein hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
  • Sut ellir sicrhau fod mentrau cymdeithasol yn cael mwy o effaith a helpu ailadeiladu economi well, mwy cynaliadwy?
  • A ellir diwygio gwasanaethau cyhoeddus pan fo gwerth am arian yn un o'r materion pwysicaf rydym yn wynebu heddiw?
  • A sut allwn ni greu cysylltiadau newydd a chydweithio gyda'n gilydd a'r sector preifat?

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg er lles cymdeithas a'r amgylchedd. Mae yna oddeutu 62,000 o fentrau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig gyda throsiant cyfunol o £27 biliwn. Maent yn gweithredu mewn amrywiol sectorau, yn cynnwys iechyd, addysg, manwerthu, technoleg, ynni adnewyddadwy, y celfyddydau a chyflogaeth.

Yn y pum mlynedd diwethaf mae Voice wedi dod â miloedd o bobl o'r Deyrnas Unedig a thramor ynghyd, yn cynnwys arweinwyr mentrau cymdeithasol, llywodraeth, gwleidyddiaeth a busnes.

 "Mae'ch creadigrwydd, deinameg, trugaredd a dyfeisgarwch yn gwbl ganolog i'r dyfodol economaidd da y mae'n rhaid i ni adeiladu yn ein gwlad"
David Cameron, Arweinydd y blaid Geidwadol, Voice09

 

Sponsors